SL(6)588 – Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2025

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn (“Rheoliadau 2025”) yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Gosod Ffioedd”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Asesiad Ariannol”).

Mae'r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn llywodraethu awdurdodau lleol o ran defnyddio eu disgresiwn i osod ffioedd, cyfraniadau neu ad-daliadau am wasanaethau gofal a chymorth y darperir ar eu cyfer o dan Ran 4 (diwallu anghenion) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymorth a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn nodi’r ffordd y mae rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiad ariannol o adnoddau unigolyn er mwyn pennu ffi pan fo hynny’n briodol.

Mae Rheoliadau 2025 yn diwygio’r Rheoliadau Gosod Ffioedd i gymhwyso codiad i’r isafswm incwm y mae gan berson mewn cartref gofal preswyl hawl ei gadw o’i incwm wythnosol net, gan gymhwyso cynnydd o £43.90 i £44.65 yr wythnos. Mae Rheoliadau 2025 hefyd yn diwygio’r Rheoliadau Asesiad Ariannol i gyfarwyddo bod taliadau a wneir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn o dan y Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol newydd yn cael eu diystyru wrth gyfrifo cyfalaf ar gyfer pennu ffi.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 3 yn mewnosod paragraff 42 newydd yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Asesiad Ariannol, sy'n cyfeirio at y Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. A all Llywodraeth Cymru gadarnhau pam na ddarperir diffiniad ar gyfer y term hwn, neu droednodyn gyda linc i wefan Llywodraeth y DU sy’n cyhoeddi gwybodaeth am y Cynllun i gynorthwyo’r darllenydd?

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y 2 bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Yn nhroednodyn (1) ar dudalen 4 o Reoliadau 2025, mae’r hanes diwygio perthnasol yn anghyflawn gan nad yw’n cynnwys “OS 2023/424” a ddiwygiodd Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol. Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd ei bod yn ymddangos bod OS 2023/424 y DU dim ond wedi diwygio testun Saesneg paragraff 40 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol. Felly, nid yw testun dwyieithog y ddarpariaeth honno bellach yn cyfateb o ran ystyr er bod gan destun y ddwy iaith statws cyfartal yn y gyfraith.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nid oedd y Rheoliadau hyn yn destun unrhyw ymgynghoriad. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn datgan y canlynol:

Nid yw'n ofynnol ymgynghori ar ddiwygio'r Rheoliadau Gosod Ffioedd. Yn wreiddiol, cynhaliwyd ymgynghoriad ar egwyddor y newidiadau a wneir gan y rheoliadau diwygio i'r Rheoliadau Gosod Ffioedd rhwng 21 Rhagfyr 2016 a 25 Ionawr 2017. Nid yw'r newidiadau yn adlewyrchu newid ym mholisi Llywodraeth Cymru, eu diben yn hytrach yw diweddaru rheoliadau i adlewyrchu’r codiadau a gymhwysir i bensiynau y wladwriaeth a budd-daliadau. Yn sgil hynny, ni chynhelir ymgynghoriad yn flynyddol.

Nid yw'n ofynnol ymgynghori ar ddiwygio'r Rheoliadau Asesiad Ariannol. Gallai diwygiadau o ran y diystyriadau newydd sy'n deillio o newidiadau ym mholisi Llywodraeth y DU mewn meysydd nad ydynt wedi'u datganoli effeithio ar nifer bach o unigolion ac nid yw'n adlewyrchu newid ym mholisi Llywodraeth Cymru. Dim ond addasiad technegol yw'r newidiadau i'r rheoliadau er mwyn sicrhau bod y rheoliadau yn adlewyrchu'n gywir y cynlluniau cymorth ariannol a nodir uchod i sicrhau bod dyfarniadau a roddir i unigolion yn cael eu diogelu rhag gosod ffioedd am ofal a chymorth. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau adrodd 1 a 2.

Ymateb y Llywodraeth:

Pwynt Craffu Technegol 1: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt adrodd. Y term a ddefnyddir yw’r enw a roddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i’r cynllun. Nid oes gan y Weinyddiaeth Amddiffyn unrhyw gynllun arall y gellid drysu’r Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsryweddol ag ef. Rydym yn nodi bod Trysorlys y DU wedi gwneud set o Reoliadau at ddibenion treth incwm sy’n cyfeirio at y cynllun, sef O.S. 2025/12, ers i’r Rheoliadau gael eu drafftio. Darperir diffiniad yn Rheoliadau’r Trysorlys ond mae’r eglurhad yn y diffiniad hwnnw fwy neu lai yn dweud yr un peth â’r diffiniad ei hun felly gellid dadlau nad yw’n cynnig llawer mwy o wybodaeth i’r darllenydd na’r hyn sydd yn enw’r cynllun ei hun. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn nad oes angen esboniad pellach gan fod y cynllun yn un unigryw, hyd yn oed pe byddai cynnwys dolen at wefan Llywodraeth y DU sy’n cynnwys gwybodaeth am y cynllun mewn troednodyn wedi bod yn ddefnyddiol i’r darllenydd.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2: Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am dynnu sylw at y ffaith bod Gorchymyn yr Ysgrifenyddion Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net, dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, dros Fusnes a Masnach, a thros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a Throsglwyddo Swyddogaethau (Deddf Diogelwch Gwladol a Buddsoddi 2021 etc) 2023 (O.S. 2023/424) wedi gwneud diwygiadau canlyniadol i destun Saesneg y Rheoliadau Asesiad Ariannol ond heb wneud y newid cyfatebol i’r testun Cymraeg. Mae Drafftio Deddfau i Gymru yn argymell cyfeirio at offerynnau diwygio perthnasol yn unig mewn troednodiadau. Ni fyddai’n arferol cyfeirio at offerynnau sy’n gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol. Yn ein barn ni, nid yw’r mater cyfwerthedd yr ydych wedi tynnu ein sylw ato yn newid y sefyllfa hon. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth yn bwriadu mynd i’r afael â’r mater hwn yn yr offeryn statudol diwygio omnibws a fydd yn cael ei osod cyn toriad yr haf.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

20 Chwefror 2025